Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Constitutional and Legislative Affairs Committee

                                                                                                       

 

Carl Sargeant AC

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Llywodraeth Cymru

Pumed llawr, Tŷ Hywel

Bae Caerdydd

CF99 1NA

 

18 Mawrth 2015

 

 

Annwyl Carl

 

 

CLA493 – Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2015

 

Trafododd y Pwyllgor y Rheoliadau cyfansawdd uchod yn ei gyfarfod ar 9 Mawrth 2015. Daeth o hyd i nifer o feysydd afreolaidd, hyd yn oed ar ôl cymryd i ystyriaeth yr amgylchiadau penodol ynghylch cyflwyno'r Rheoliadau hyn.

 

Yn ogystal ag adrodd i'r Cynulliad ar nifer o bwyntiau technegol a theilyngdod (a restrir isod), dymunwn dynnu sylw at ein pryderon a cheisio sicrwydd ar rai materion penodol. 

 

Rydym wedi adrodd i'r Cynulliad nad yw'r Rheoliadau wedi'u gwneud yn ddwyieithog. Bydd swyddogion y Pwyllgor yn cwrdd â swyddogion y Llywodraeth i drafod materion yn ymwneud ag offerynnau cyfansawdd, a bydd yr offeryn hwn yn debygol o fod yn rhan o'r trafodaethau hynny.

 

Yn ogystal, rydym wedi adrodd bod y rheoliadau dros naw mis yn hwyr. Y dyddiad trosi ar gyfer y Gyfarwyddeb Effeithlonrwydd Ynni oedd 5 Mehefin 2014. Byddai'n ddefnyddiol pe gallech ddweud a yw Cymru mewn perygl o wynebu achos am dor-ddyletswydd o ganlyniad i hyn.

 

Rydym yn ymwybodol bod yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi penderfynu drafftio eu rheoliadau ar wahân. Er y nodwn mai'r penderfyniad oedd gosod rheoliad cyfansawdd oherwydd bod gan Gymru a Lloegr un fframwaith trwyddedu amgylcheddol, serch hynny, byddai gennym ddiddordeb mewn clywed a oes cwmpas ar gyfer darpariaeth ar wahân yn y maes hwn, o ganlyniad i'r newidiadau yn y fframwaith rheoleiddio amgylcheddol yng Nghymru. Efallai y byddai dull Cymru yn unig o weithio wedi golygu deddfwriaeth fwy cywir a dwyieithog ar gyfer Cymru.

 

Ceisiwn eich sicrwydd na fydd y materion hyn yn codi eto.

 

Yn gywir

 

DPO's Signature

David Melding AC

Cadeirydd